Gwneud Synnwyr o Awtistiaeth yn y Blynyddoedd Cynnar
Ar gyfer pwy mae’r modiwl hwn?
Mae’r modiwl hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn amgylchedd y Blynyddoedd Cynnar. Mae’r modiwl hwn yn addas ar gyfer ystod o weithwyr, gan gynnwys, er enghraifft: rheolwyr meithrinfeydd, athrawon, ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar, cynorthwywyr grwpiau chwarae, cynorthwywyr meithrin, gweithwyr gofal plant, staff swyddfa a staff amser cinio.
Disgrifiad
Mae’r modiwl hwn yn fodiwl codi ymwybyddiaeth sy’n cyflwyno awtistiaeth a’r meysydd gwahaniaeth, a all gynnwys: Dealltwriaeth Gymdeithasol a Chyfathrebu, Hyblygrwydd, Prosesu a Deall Gwybodaeth, a Phrosesu ac Integreiddio’r Synhwyrau, ymhlith pethau eraill. Rydym yn archwilio meysydd gwahaniaeth yn nhermau cryfderau ac anghenion cymorth ac yn nodi rhai addasiadau rhesymol cychwynnol y mae angen eu hystyried wrth gefnogi disgyblion awtistig, gan gynnwys creu a defnyddio Proffil Un Dudalen
Nodau
Nodau Gwneud synnwyr o awtistiaeth yn y Blynyddoedd Cynnar yw:
- Ehangu eich dealltwriaeth o sut mae awtistiaeth yn effeithio ar blant yn y Blynyddoedd Cynnar
- Cynyddu eich arbenigedd wrth adnabod cryfderau a gwahaniaethau unigol plentyn awtistig
- Datblygu eich sgiliau wrth nodi rhwystrau i ddysgu ar gyfer plant awtistig
- Datblygu eich dealltwriaeth o ba addasiadau rhesymol y mae angen eu gwneud i gefnogi plentyn awtistig yn eich lleoliad
Amcanion
Ar ôl cwblhau ‘Gwneud Synnwyr o Awtistiaeth yn y Blynyddoedd Cynnar’, byddwch yn gallu:
- Gweld awtistiaeth fel gwahaniaeth yn hytrach na diffyg neu anhwylder.
- Adnabod y tri maes gwahaniaeth i blant awtistig a phwysigrwydd nodi cryfderau a gwahaniaethau.
- Gwrando ar, a dysgu o, safbwyntiau plant awtistig a'u rhieni/gofalwyr.
- Myfyrio ar eich ymarfer proffesiynol a gweithredu addasiadau rhesymol i gefnogi plant awtistig.
Hyd y sesiwn
Mae’r modiwl hyfforddi hwn wedi’i ddylunio fel bod modd ei ddefnyddio’n hyblyg, â hyfforddwyr yn defnyddio’r amser sydd ar gael yn y ffordd sy’n gweddu orau i’w cynulleidfa. Rydym wedi darparu modiwl hyfforddi a deunyddiau y gellir ymdrin â hwy mewn sesiwn 90 munud gan ddefnyddio’r sleidiau craidd, ond mae rhagor o gynnwys ar gael, a gall yr hyfforddwr ei addasu a’i ddefnyddio mewn sesiwn estynedig.