Arfer Awtistiaeth Da yn y Blynyddoedd Cynnar
Ar gyfer pwy mae’r modiwl hwn?
Mae’r modiwl hwn wedi’i anelu at yr holl weithwyr addysg proffesiynol sy’n gweithio yn y Blynyddoedd Cynnar, sy’n cynnwys gwarchodwyr plant, lleoliadau cyn ysgol, meithrinfeydd a dosbarthiadau derbyn ysgolion.
Disgrifiad
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd dod i adnabod plentyn a sut mae ei awtistiaeth yn effeithio arno. Rydym yn edrych ar enghreifftiau o ymddygiadau gofidus a sut y gellir cefnogi’r rhain trwy ystod o strategaethau, dulliau ac addasiadau rhesymol.
Mae’r modiwl hefyd yn eich arwain ar sut i gasglu gwybodaeth am ddiddordebau, dyheadau, cryfderau a gwahaniaethau plentyn awtistig, a sut y gellir defnyddio’r wybodaeth hon wrth ddatblygu Cynllun Addysg sy’n Canolbwyntio ar y Plentyn.
Mae’r modiwl yn cyflwyno Fframwaith Cymwyseddau’r Blynyddoedd Cynnar NEN er mwyn i chi allu datblygu a gwerthuso eich arfer awtistiaeth da ar ôl cwblhau’r modiwl.
Nodau
Bydd Arfer Awtistiaeth Da yn y Blynyddoedd Cynnar yn eich cynorthwyo:
- I ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o arfer awtistiaeth da.
- I gynyddu arbenigedd mewn defnyddio strategaethau ymarferol a dulliau gweithredu sy’n cefnogi plant awtistig.
- I ddatblygu gwybodaeth am awtistiaeth a’r unigolyn fel sail i gynllunio sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
- I’ch helpu i fyfyrio ar eich ymarfer, a’i wella, wrth weithio gyda phlant awtistig.
Amcanion
Ar ôl cwblhau ‘Arfer Awtistiaeth Da yn y Blynyddoedd Cynnar’, byddwch yn gallu:
- Deall bod awtistiaeth yn wahaniaeth yn hytrach na diffyg neu anhwylder.
- Adnabod y Tri Maes Gwahaniaeth mewn awtistiaeth a sut y gall y rhain effeithio ar blant awtistig.
- Bod yn hyderus wrth ddefnyddio’r Fframwaith Cymwyseddau Awtistiaeth.
- Cynnwys y plentyn awtistig a’i deulu mewn penderfyniadau.
- Defnyddio ystod o ddulliau gweithredu, strategaethau, ac addasiadau i gael gwared ar rwystrau sy’n atal dysgu a chwarae.
Hyd y sesiwn
Bydd hyd y sesiwn hyfforddi yn dibynnu ar y partner hyfforddi sy’n cyflwyno’r sesiwn. Dylech gysylltu â’r partner hyfforddi yn uniongyrchol i holi ynglŷn â hyn. Os na allwch weld ei fanylion cysylltu, edrychwch am eich partner hyfforddi lleol a gofynnwch.