Gwneud Synnwyr o Awtistiaeth mewn Ysgolion
Ar gyfer pwy mae’r modiwl hwn?
Mae’r modiwl hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn amgylchedd ysgol, boed yn athrawon, cynorthwywyr cymorth dysgu, goruchwylwyr prydau ysgol, rheolwyr busnes ysgolion, staff safle neu staff swyddfa. Byddai’r modiwl hwn yn addas ar gyfer gyrwyr tacsis a hebryngwyr ysgol hefyd.
Disgrifiad
Mae’r modiwl hwn yn fodiwl codi ymwybyddiaeth sy’n cyflwyno awtistiaeth a’r meysydd gwahaniaeth, a all gynnwys: Dealltwriaeth Gymdeithasol a Chyfathrebu, Hyblygrwydd, Prosesu a Deall Gwybodaeth, a Phrosesu ac Integreiddio’r Synhwyrau, ymhlith pethau eraill. Rydym yn archwilio meysydd gwahaniaeth yn nhermau cryfderau ac anghenion cymorth ac yn nodi rhai addasiadau rhesymol cychwynnol y mae angen eu hystyried wrth gefnogi disgyblion awtistig, gan gynnwys creu a defnyddio Proffil Un Dudalen.
Nodau
Nodau Gwneud Synnwyr o Awtistiaeth mewn Ysgolion yw:
- Ehangu eich dealltwriaeth o sut mae awtistiaeth yn effeithio ar ddisgyblion yn yr ysgol.
- Cynyddu eich arbenigedd wrth adnabod cryfderau a gwahaniaethau unigol plentyn awtistig
- Datblygu eich sgiliau wrth nodi rhwystrau i ddysgu ar gyfer plant awtistig
- Datblygu eich dealltwriaeth o ba addasiadau rhesymol y mae angen eu gwneud i gefnogi plentyn awtistig yn eich lleoliad
Amcanion
Ar ôl cwblhau ‘Gwneud Synnwyr o Awtistiaeth mewn Ysgolion’, byddwch yn gallu:
- Gweld awtistiaeth fel gwahaniaeth yn hytrach na diffyg neu anhwylder.
- Adnabod y tri maes gwahaniaeth i blant awtistig a phwysigrwydd nodi cryfderau a gwahaniaethau.
- Gwrando ar, a dysgu o, safbwyntiau plant awtistig a'u rhieni/gofalwyr.
- Myfyrio ar eich ymarfer a gweithredu addasiadau rhesymol i gefnogi plant awtistig.
Hyd y sesiwn
Mae’r modiwl hyfforddi hwn wedi’i ddylunio fel bod modd ei ddefnyddio’n hyblyg, â hyfforddwyr yn defnyddio’r amser sydd ar gael yn y ffordd sy’n gweddu orau i’w cynulleidfa. Rydym wedi darparu modiwl hyfforddi a deunyddiau y gellir ymdrin â hwy mewn sesiwn 90 munud gan ddefnyddio’r sleidiau craidd, ond mae rhagor o gynnwys ar gael, a gall yr hyfforddwr ei addasu a’i ddefnyddio mewn sesiwn estynedig.